Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr at gadw parciau'r ddinas yn hardd i bawb eu mwynhau. Mae cyfleoedd i unigolion a sefydliadau gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau ledled parciau Caerdydd.

Cyfleoedd:

Gwirfoddoli gyda'r Ceidwaid (Parc Bute)

Ymunwch â'r sesiynau misol gyda Cheidwad Parc Bute a Chyfeillion Parc Bute i gynorthwyo gyda thasgau cadwraeth, helpu i gynnal a chadw a gwella cynefinoedd Parc Bute.

Mae’r tasgau’n cynnwys:

  • Clirio llwybrau
  • Tocio mieri sydd wedi gordyfu
  • Codi sbwriel
  • Rhaca gwair
  • Plannu bylbiau
  • Glanhau arwyddion a physt
  • Tocio

Darperir yr holl offer a rhoddir cyfarwyddyd i chi gan ein tîm ar y tasgau y byddwn yn eu cyflawni.

Mae angen i unrhyw wirfoddolwyr o dan 18 oed fod yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad.

Mae dyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu i’w trefnu trwy Eventbrite pan fyddant ar gael

Paula, one of Bute Park Education Centre’s Education Volunteers teaching some school children

Coed Caerdydd

Gyda chymorth cymunedau, nod Coed Caerdydd yw cynyddu canopi coed Caerdydd o 18.9% i 25% fel rhan o Caerdydd Un Blaned.

Mae yna rolau gwirfoddoli amrywiol yn y prosiect hwn; gan gynnwys plannu coed, gwarcheidiaeth coed a gwirfoddoli mewn planhigfeydd.

Darllenwch fwy am y Cyfleoedd gwirfoddoli gyda Choed Caerdydd yma.

Grwpiau Corfforaethol a thargedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Cysylltwch â’r CeidwaidParciauCymunedol@Caerdydd.gov.uk os ydych yn chwilio am gyfleoedd i’ch cwmni. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda gwirfoddolwyr o nifer o sefydliadau.

Gallwn eich helpu chi i drefnu cyfleoedd i gyrraedd eich targedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gan gynnwys tasgau cadwraeth a chodi sbwriel.

Codi sbwriel a grwpiau gwirfoddoli eraill

Sesiynau codi sbwriel

Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau codi sbwriel o amgylch Caerdydd, ewch i Cadwch Gaerdydd yn Daclus.

 

Dan 18 oed

Mae angen gwneud ceisiadau gwirfoddoli Dug Caeredin a Bac Cymru drwy Cyfleoedd profiad gwaith

 

Ymholiadau Cyffredinol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am wirfoddoli ym Mharciau Caerdydd, anfonwch e-bost at y Tîm Ceidwaid Cymunedol: CeidwaidParciauCymunedol@Caerdydd.gov.uk 

A group of volunteers at Bute Park
A group of volunteers at Bute Park